
Bryan yr Organ
Wel dyna chi peiriant o ddyn. Daeth Bryan a'i organ i fewn i'r stiwdio yn Aberteifi er mwyn smashio ychydig o licks celtaidd i lawr, a lliwgar oedd y profiad i bawb. Ar ei ffordd i dwmpath yn Llandysul, cymerodd ychydig oriau i chwistrellu gwledd o wmpa i'r sefyllfa. Bryan yr Organ, peiriant o ddyn.




Pobol da, pobol Pen Llŷn!
Wrth ganu ar gefn lori bwyd defaid mewn maes parcio yn Llithfaen, wnes i jôc y byddai ar dudalen flaen papur bro Pen Llŷn erbyn yr argraffiad nesaf. Diwnod wedyn, anfonodd bois cwrw Llŷn hwn imi. Mae unrhywbeth yn gallu digwydd ar y sîn canu gwlad, gwerin a phop Cymraeg.
Pobol da, pobol Pen Llŷn.
Yn y stiwdio!
Mae albwm #2 wedi ei recordio yn stiwdio Fflach, Aberteifi ar labeli Tarw Du/Fflach gyda Lee Mason a Bryan yr Organ.
Roedd hi'n fflat owt o wythnos lle ganwyd y 'Welsh Whisperer a'r hambon band'. Lwc owt fydd hi.
Mas yn y siopau cyn Nadolig 2016 - rhywbeth i lenwi'ch hosan fel pe bai.




